SEION, Aberystwyth

Crynodeb o hanes yr eglwys 1987 – 2000

Yn 1987 sefydlwyd y drefn o recordio oedfaon ar gyfer aelodau na allant fynychu oedfaon. Dathlwyd deugain mlynedd sefydlu Cymdeithas y Chwiorydd sydd erbyn hyn yn Gymdeithas y Capel, wedi i’r gwr gael mynediad!

Yn 1988 sefydlwyd Côr Merched Seion gan Mrs June Griffiths, ac mae’r côr yn parhau i gyfrannu’n gyson i oedfaon yn Seion o dan faton Mr David Griffiths. Yn 1989 syrthiodd darn sylweddol o nenfwd y Capel a bu oedfaon yn cael eu cynnal yn y festri hyd Mai 1990, pryd yr ail agorwyd y Capel. Costiodd y gwaith atgyweirio gyfanswm o £9,450.

Yn 1990 ymwelwyd â Gwyl Teulu Duw yn Llanelwedd. Yn 1991 mentrwyd arbrofi trwy gynnal Ysgol Sul y plant yn ystod Oedfa’r Bore, gyda’r plant yn y gynulleidfa hyd at ddiwedd yr ail emyn a chyfle i’r Gweinidog, neu bregethwr arall ar ei dro, i roi anerchiad neu stori iddynt, cyn iddynt ymneilltuo i’r Festri. Daeth hwn yn drefniant parhaol yn fuan. Mae cyfraniad y plant a’r ieuenctid gyda’u doniau lleisiol ac offerynnol a’u mwynhad wrth gyflwyno neges yr Efengyl mewn sgets a meimiau’n cyfoethogi’r oedfaon.

1992 oedd blwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth a’r Cylch ac ym mis Mai teledwyd Dechrau Canu Dechrau Canmol o Seion, gyda Chôr yr Eisteddfod yn cymryd rhan. Yn 1993 buom yn Llanelwedd a Chefnbrith yn coffáu Pedwarcanmlwyddiant Dienyddio John Penri. Cafodd plant a ieuenctid Seion y fraint o gael rhan amlwg yn y pasiant yn cyflwyno hanes John Penri. Pleser mawr yn 1994 oedd mynd i wasanaeth Ordeinio un o’n diaconiaid, Dr Terry Edwards, yn Weinidog ar Eglwysi Annibynnol ardal Tywyn ac Aberdyfi. Yn 1994 hefyd cawsom oedfa arbennig i gofio 150 mlynedd marwolaeth Azariah Shadrach, gweinidog cyntaf yr eglwys.

Yn 1996 sefydlwyd arferiad arall a ddaeth yn ddigwyddiad blynyddol ers hynny, sef Hwyl yn y Dwr – awr ym mhwll nofio’r dre’ i’r hen a’r ifanc – yn cael ei noddi gan wahanol aelodau bob blwyddyn. Y flwyddyn ganlynol, 1997, sefydlwyd Clwb Hwyl y Plant ar Nos Wener ac hefyd gyfres o deithiau preswyl i aelodau yn ystod gwyliau ysgol hanner tymor mis Chwefror. Roedd y gynta’ i Lundain gyda thaith o amgylch Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi o dan arweiniad yr Arglwydd Geraint o Bonterwyd. Ym Mawrth 1997 rhoesom gartref am dridiau i gyfarfodydd Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Sefydlwyd y Cwrs Alffa yn 1998 ar aelwyd Bronallt. Oherwydd y problemau cynyddol o lanw’r pulpud ym mis Awst, cychwynwyd ar arbrawf o rannu gwasanaethau gydag Eglwys Bethel ar draws y ffordd – arbrawf sydd wedi sefydlu’n barhaol erbyn hyn. Bu taith arall i Lundain a’r tro hwn ymwelwyd â’r sioe “Jesus Christ Super Star”.

Yn 1999 dathlodd Mr Howard Williams 35 mlynedd fel Organydd a chyflwynwyd rhodd fechan iddo, a bu’r daith flynyddol dros Fôr Iwerydd i Ddulyn.

Ym mlwyddyn y Mileniwm, cafwyd oedfa arbennig i ddathlu ar ei chychwyn, a chafwyd taith i Roslan a Chwilog ar achlysur cofio am y diweddar Barchg Ddr R Tudur Jones, un o gyn Weinidogion yr Eglwys. Bu’r daith flynyddol unwaith eto i Lundain gan ymweld â’r “Dome” a thaith hyfryd ymlaen ac yn ôl i Greenwich ar y Tafwys. Trefnir teithiau undydd, ar droed ac mewn bws, yn gyson gan Gymdeithas y Capel a’r Ysgol Sul ac mae’r rhain yn gyfle i ni fwynhau cwmni ein gilydd.

Caer Efrog oedd cyrchfan y daith flynyddol yn 2001. Eleni hefyd cynhaliwyd Cyngor yr Undeb am undydd yn Seion ym mis Ebrill yn lle’r cyfarfod tridiau a oedd i’w gynnal yn Aberteifi ym mis Mawrth. Ar Sul y Pasg lansiwyd Caneuon Ffydd yn oedfaon y diwrnod hwnnw.

Yn ystod y cyfnod, darlledwyd Oedfa’r Bore bum gwaith ar Radio Cymru o Seion.

Mae’r plant wedi cymryd rhan yn flynyddol yng Nghwis Beiblaidd Cyngor Ysgolion Sul Cymru, a’n tîm cynradd oedd yn fuddugol yn y rownd derfynol i holl siroedd y De, a daeth ein tîm uwchradd yn ail yn y gystadleuaeth ar gyfer ieuenctid 12-16oed, yn 1999. Daeth llwyddiant i’r tîm cynradd eto y flwyddyn ddilynol – hwy oedd yn fuddugol yn rownd derfynol Cwis Beiblaidd Cenedlaethol Cymru yn 2000. Bydd plant yr Ysgol Sul yn cael blas a bendith yn flynyddol yng Ngwersyll Haf Cyngor Ysgolion Sul Cymru ym Mhentywyn.

Rhan anhepgor o fywyd yr eglwys yw’r Cwrdd Gweddi a’r Dosbarth Beiblaidd sy’n cyfarfod bob nos Iau ar hyd y flwyddyn. Ceir cymdeithas arbennig yma wrth i ni fyfyrio’r Gair yng nghwmni’n gilydd. Ers blwyddyn a mwy yr ydym wedi bod yn canolbwyntio’n meddyliau ar yr enwau gwahanol a dadogir i’r Arglwydd Iesu yn yr Ysgrythurau.

Ceir ymwybyddiaeth real o angen ac eisiau ein cyd-ddyn ar draws y byd yn ein plith ac mae yna gyfrannu hael bob amser gan y ffyddloniaid i elusennau arbennig.

Mae Seion yn eglwys fyw a gweithgar sy’n rhoi pwyslais ar bregethu’r Efengyl ac adeiladu cymdeithas gynnes yn yr Arglwydd. Mae gennym ffyddloniaid sydd â chalon i weithio ynghyd â gofal mawr am gyd-aelodau. Nid ydym yn wynebu canrif newydd heb arweiniad a gobaith – yr ydym yn cerdded iddi gan ymddiried yn llwyr yn addewid y Crist byw:

“Wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd”
(Mathew 28: 20).

Glyn Lewis Jones