Croeso i Eglwys Seion
Eglwys Gristnogol Annibynnol Gymraeg yng nghanol tref Aberystwyth yw Seion. Ein bwriad yw rhannu'r newyddion da am Iesu Grist - ei groes a'i atgyfodiad - gyda phobl o bob cefndir ac yn enwedig gyda'r Cymry Cymraeg. Credwn fod Duw yn siarad wrthym trwy'r Beibl. Yn y llyfr hwn, mae ganddo neges o obaith a maddeuant ar ein cyfer ni, ar gyfer Aberystwyth, ac ar gyfer y byd. Mae croeso i chi ymuno gyda ni!
Oedfaon
Croeso i chi ymuno gyda ni yn ein hoedfa am 10yb bob Sul wrth i ni wrando ar Air Duw, y Beibl, yn cael ei bregethu.
Y Newyddion Diweddaraf
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am fywyd a gweithgareddau Eglwys Seion, cysylltwch â ni trwy'r ffurflen gysylltu.
Pregethau
Mae ein pregethau diweddaraf wedi'u recordio a gellir eu gwylio ar ein cyfrif YouTube. Cliciwch ar yr icon uchod am fwy o wybodaeth!
Cyfryngau cymdeithasol